Ymadroddion, Idiomau, Diarhebion Cymraeg

| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |

78 canlyniad

Ymadrodd
Rhaid cael cof da'i ddweud celwydd
Rhaid cael genau glân i oganu'n glir
Rhaid canmol y bont a'm cariws
Rhaid canmol y cel a'm cariodd
Rhaid crogi cost lle bo cariad
Rhaid cropian cyn cerdded
Rhaid godde' bil bach, serch cael dy blyfio yn fyw
Rhaid i golled gael ei rhan, tae hynny ddim ond blawd a bran
Rhaid magu lloi i gael ychen
Rhaid naddu cyn cael sgodion
Rhaid talu'r glwyd, serch eisiau bwyd
Rhaid wrth lwy hir i fwyta gyda'r diafol
Rhaid yw cropian cyn cerdded
Rhedeg ar ôl ei gysgod
Rhedeg fel gafr ar daranau
Rhedeg yn y gwaed
Rhegi fel cath
Rhewi carth yn y pared
Rhodd o rodd yw'r rhodd garedicaf
Rhoi aden yn yr olwyn
Rhoi clec ar fy mawd
Rhoi cwlwm â i dafod, na ellir ei ddatod a'i ddannedd
Rhoi diwrnod i'r brenin
Rhoi ei chroen ar y pared
Rhoi ei fys ym mhotes pawb
Rhoi ei ysgwydd allan
Rhoi f'arfau i lawr
Rhoi ffon wen iddo
Rhoi halen ar y briw
Rhoi pluen i rywun
Rhoi tafod drwg
Rhoi taw ar (rywun)
Rhoi tân yn neupen y gannwyll
Rhoi traed ar y pentan
Rhoi wy i gael iâr
Rhoi'r bysen i gael y ffeuen
Rhoi'r cardiau yn y to
Rhoi'r dorth a begio'r dafell
Rhoi'r ffidil yn y to
Rhoi'r gân yn y god a'r god i gadw
Rhoi'r gwpan i gadw
Rhoi'r troed gorau ymlaén, neu beidio byth a chychwyn
Rhoi'r wialen i socio
Rhoi'r wydd wrth y tân
Rholio caseg eira
Rhowch ddigon o raff iddo ac fe groga ei hun
Rhowch i leidr ddigon o raff, fe grogiff ei hun
Rhowch y sbâr ar y Sbur
Rhwng bodd ac anfodd
Rhwng bys a bawd
Rhwng llaw a llawes
Rhwng seiri a phorthmyn
Rhwng y ddwy stôl ar lawr
Rhwng y ddwy stôl i'r llawr
Rhwng y ddwy stôl, heb un
Rhwng y gwr cwta a gwas y diawl
Rhwng y tân a'r tewyn
Rhwng ymyl ac ochr
Rhwydd hynt trwy ddechrau da"
Rhwydd pob cyfarwydd
Rhy anodd celu cariad
Rhy anodd colli hen arfer
Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei lafar
Rhyw agor am lawer, a chauad am ddim
Rhyw bilo wyau, o hyd ac o hyd
Rhyw ddrwg yn ei lawes
Rhyw drai a llanw, byth a hefyd
Rhyw ergyd a chilio
Rhyw faw yn y caws
Rhyw goch gam, o hyd; rhyw rech groes beunydd
Rhyw hela'r plwy i ddal llygoden
Rhyw hing hang, byth ac yn dragwydd
Rhyw rech groes ar bob peth
Rhyw Siôn yr un sut. Heb fod yn wel nac yn waeth.
Rhyw Wil naw-crefft, heb un grefft
Rhyw ymyl ac ochr
Rhywsut-rhywsut
Rhywun-rhywun

(h) Curiad Oer 2005