Ymadroddion, Idiomau, Diarhebion Cymraeg

| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |

73 canlyniad

Ymadrodd
Pa ennill sy o nithio baw
Pan dry'r rhod fe dry'r hin
Pan fo llawer yn llywio fe sudda'r llong
Pan fo tynnaf y tant cyntaf y tyr
Pan gyll y call fe gyll ymhéll
Pan mae'r haearn yn boeth y mae taro
Parcha dy bilyn, fe barcha dy bilyn dithau
Parchell o fy hwch fy hun
Parchu'r cybydd er mwyn ei bwrs
Pawb a dynant at ei tebyg
Pawb a'i fys lle bo'i ddolur
Pawb am y peth y byddo fel y dyn yn cusanu ei gaseg
Pawb â'i ffasiwn ganddo a phob ffasiwn yn gwneud y tro
Pawb drosto ei hun a Duw drosom ni i gyd
Pe bai a phe buasai, pe tai a phe tasai.
Pe tai a phe tasai, Hwch mewn pastai
Peidio gwneud na shaffl na chyt
Peidiwch gwisgo'r cap os nad yw'n ffitio
Peidiwch plethu hwip i hwipo'ch hunan
Peidiwch rhifo'r cywion cyn eu deor
Peidiwch rhifo'r cywion cyn eu gori
Peidiwch ymhél ag ysgall
Peithyn i bob peth
Pen oen a chynffon gwiber
Pen punt a chynffon dimai
Penwyni yw anhap henaint
Perth hyd bogel, perth ddiogel
Petái a petasai, byddai pob peth o'r gorau
Peth hawdd yw priodi - ond anodd byw yn y byd
Plant a hen bobl ddywed y gwir
Plant Alis
Plant gwirionedd yw hen ddiarhebion
Plant y gras bach
Plant y gwr drwg
Plant yw plant, gwnewch a fynnoch â hwy
Plethu ei cheg
Pluen yn ei gap
Plufyn at liw'r dŵr
Pluo ei nyth
Pluo ei wely ei hun
Pluo gwyddau
Po agosaf i'r asgwrn, melusaf y cig
Po callaf y dyn, anamlaf ei eiriau
Po fwya a gewch mwya a geisiwch
Po fwya'r hâst fwya'r rhwystr
Po hyna ynfyta
Po mwyaf y llanw, mwyaf y trai
Po nesa cynhesa
Po nesa i'r eglwys, pella o Baradwys
Po nesaf i'r bedd, nesa i'r byd
Pob bys yn bawd
Pob copa walltog
Pob creadur yn ôl ei elfen
Pob llysieuyn drwg a dyfa'n hir
Pob lwc
Pob migwrn ac asgwrn
Pob newydd dedwydd da, dim cownt o'r rhai cynta
Pob tebyg a gwrdd. - Nod dafad a hwrdd
Pob ysgub newydd a ysguba'n lân
Pobun at ei grefft, ebe'r hwch wrth durio
Poeri ar ei bilyn ei hun (ei billedyn / ei dillad / ei ddilledyn)
Poeri ar ei fratiau ei hun
Popeth newydd dedwydd da
Portha'r bol, fe bortha'r bol y cefn
Priodi'r domen er mwyn y tail
Pryn hen pryn eilwaith, pryn newydd fe bery beth
Pryn hen, pryn eilwaith
Prynu cath mewn cwd
Putain ddywed putain gynta
Pwrs â thwll yn ei ddeupen
Pwrs gwag a wna wyneb cul
Pwyso a mesur
Pymtheg yn y dwsin

(h) Curiad Oer 2005