Ymadroddion, Idiomau, Diarhebion Cymraeg

| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |

304 canlyniad

Ymadrodd
Ma' croen ei dyn ar ei dalcen e'
Ma' fe fel rhech mewn pot jam
Ma' hanner e'n Penboyr
Ma' sens mewn cachi'n dene
Mab a dwng ei dad; ie, mab ei dad
Mae 'na' hael cystal ag 'ie' anfoddog
Mae ail gynnig i gymro
Mae amser i siarad yn ogystal â thewi
Mae arogl afal sur yn well na'i flas
Mae bwdel ar bob llwybr
Mae cariad yn ddall i bob anaf
Mae cenol ar bopeth
Mae clustiau gan gloddiau, a llygaid gan gerrig
Mae dafad ddu ym mhob praidd
Mae dechrau i bob peth
Mae digon o faint mewn buwch i ddal sgwarnog
Mae digon twym i gw'mpo eidon
Mae dincod ar ei ddannedd
Mae dod i blentyn, ond mynd i ddyn
Mae dod i bob peth, ond i hen ddyn
Mae drain yn pigo
Mae dwy ffordd i'r felin, ac un i'r clochdy
Mae dwy ochr i'r ddalen
Mae dwy ochr i'r stori
Mae dyrnaid o lwch mis Mawrth yn werth pecaid o aur y brenin
Mae dysg o fedydd i fedd
Mae e' fel llo pasgedig
Mae e' mor 'wan a brwynen
Mae e' mor dwp a stên
Mae e'n ddwl belen
Mae e'n debyg i fochyn dyn arall
Mae ei dro i bob peth
Mae ei lygaid yn fwy na'i fola
Mae fel y mwdwl o dew
Mae ganddo dwy droed chwith
Mae gweud yn dda, ond mae gwneud yn well
Mae hen esgid yn hoffi saim cystal ag un newydd
Mae hen gadno am ei hela
Mae hi wedi cachu ar y gambren nawr
Mae hi'n ddwl hên
Mae hyd 'no'd mwydyn yn teimlo
Mae i bob celwydd ei gymar
Mae i bob llanw ei drai
Mae i falchder ei gwymp
Mae llawer ffordd i ladd ci heb ei dagu â 'menyn
Mae llawer ffordd i'r ffair
Mae llawer gair yn drymach na gordd
Mae llawer hen cystal â newydd
Mae meistr ar Mistar Mostyn
Mae mor hawdd codi sofren ag yw codi dimai
Mae mor hawdd dringo pren afalau ac yw dringo pren crabas
Mae mwy nag unffordd i'r eglwys
Mae mwydyn yn gwingo, os damsengir ef
Mae newid ar siarad
Mae newid gwaith cystal â gorffwys
Mae newid gwaith cystal â hoe
Mae o ar doriad ei fogail
Mae parch pob dyn ar ei law ei hun
Mae pawb â'i gofid
Mae pawb yn adwaen swn ei gloch ei hunan
Mae pob aderyn yn hoff o'i gerdd ei hun, ebe'r frân
Mae pob gwaith yn galed i ddiog
Mae pob hwrdd yn 'nabod ei resfa
Mae pob margen gymell yn drewi
Mae pob peth wrth lygad lleidr
Mae pob peth yn dda yn ei dymor
Mae pob tipyn yn help fel y deudodd y falwoden
Mae pob tipyn yn help, ebe'r dryw wrth biso i'r môr
Mae pont i groesi pob anhawster
Mae pwll wrth ddrws pawb weithiau
Mae rhyw chwilen yn ei ben
Mae rhyw ddraen ym mhob nyth
Mae rhywbeth yn peri i'r gath lyfu'r pentan
Mae un celwydd yn gweiddi am un arall
Mae yfory'n ymhell
Mae yn cynyddu fel cyw yr wydd
Mae yn dda dal crothell
Mae yn ddigon ffein i 'ffeirad
Mae'n browlan fel cawl pys
Mae'n ddigon oer i rewi brain
Mae'n ddigon oer i sythu'r brain
Mae'n drewi fel abo
Mae'n siarad fel pwll y mor
Mae'n siarad pymtheg i'r dwsin
Mae'r carc yn well na'r cof
Mae'r esgid yn gwasgu
Mae'r hwch wedi mynd trw'r siop
Mae'r pigyn am nôl heddi
Mae'r sêt yn rhy dwym
Magu asgwrn cefn
Maip y gwanwyn yn waith na gwenwyn
Malu awyr
Mam ddigerydd wnaiff ferch benrhydd
Man gwyn man draw
Man y man, Sianco, ebe Shân. Waeth baw na bwdel
Maneg weddw
Marchogaeth cel marw
Margen oedi, margen golli
Marw yn yr harnais
Mawr ei awydd a dyrr ei wddw
Mêl ar ei fysedd
Meddwl dim mwy amdano nag am eira llynedd
Meddwl dwywaith cyn siarad unwaith
Megys y megys, megys yn gwta, megys yn llaes
Meistr pob gwaith yw ymarfer
Melys ag e, ond melysach bod hebddo
Melys gwin o gafn arall
Melys pob gweithred wrth ei gwneud
Melys rhodd mewn angen
Melysach afal o'i ddwyn
Mentro ei phen
Methu dal y pwysau
Methu gweld y coed gan breniau
Mewn baw mae clasgu arian
Mewn chwinciad chwannen
Mewn chwinciad llygad llo
Mewn cyfyng-gyngor
Mewn dwy gachiad
Mewn golwg
Mewn gwaed oer
Mewn picil
Mewn tipyn o oed
Mewn undeb y mae nerth
Mi wn hyd ei goes; ni raid iddo fygwth
Mo'r naid gwiwer o'r marc
Mofyn coed i'r gluder cyffredin
Mor amled â gwiddon mewn cosyn
Mor anwadal â cheiliog gwynt
Mor brysur â'r ci mewn ffair
Mor brysured â'r bi ar y berth
Mor chwim â'r wenci
Mor dawel a'r bedd
Mor dawel â dau o'r gloch
Mor dawel â thes mis Mai
Mor dawel â'r tesmor ddauwynebog â cheiliog gwynt
Mor ddeche â 'deryn ar ei nyth
Mor ddi-ddal a cheiliog y gwynt
Mor ddi-les â'r halen i'r iâr
Mor ddibarch â'r blaidd
Mor ddiddiolch ag i'r ci am cario'i gw
Mor ddifater a broga melyn bach
Mor ddifrifol â phe'n dweud ei bader
Mor ddigartre â chath rhwng deudy
Mor ddigyffro â malwoden
Mor ddiles a chennin Pedr
Mor ddiles a mes i eifr
Mor ddiles ag arian cybydd
Mor ddilewyrch â thân gwidw
Mor ddiniwed â'r oen
Mor ddiniwed â'r oen bach
Mor ddiog â rhod y felin
Mor ddistaw a'r bedd
Mor ddistaw â'r bedd
Mor ddiwybod ag yw'r twrch daear am yr haul
Mor ddiwyd â morgrug
Mor ddued â'r frân
Mor ddued â'r inc
Mor ddued â'r parddu
Mor ddwl â chi yn cyfarth y lleuad
Mor ddyfal â lleuen mewn crachen
Mor ddyled â'i lun
Mor debyg â dau lwydyn y to
Mor debyg â dwy bysen
Mor debyg â dwy ffeuen
Mor denau â rhaca
Mor denau â sgiled
Mor dew â hwch melinydd
Mor dew â iâr ddu yn ei thalcen
Mor dew â merched Shôn Grîn
Mor dew â sached o wlân
Mor dewed â'r iâr yn ei thalcen
Mor dewed â'r wadd
Mor dlawd â gwas y clochydd
Mor dlawd â llygoden eglwys
Mor drafferthus â'r iâr â dau gyw
Mor drim â'r dryw
Mor dwp â mochyn
Mor dwp â sledj
Mor dwt â'r dryw
Mor dwymed â'r toes yn codi
Mor dywyll a bola buwch
Mor dywyll a'r fagddu
Mor falch ag alarch ar lyn
Mor falch â Jew ar ei focs
Mor farw â hoelen mewn drws
Mor fân ag eirin duon bach
Mor feined â milgi yn ei gwt
Mor ffoled â'i gysgod
Mor ffyddlon â cholomen i'w chell
Mor ffyddlon â gwas y gwcw
Mor frefog â'r blaidd
Mor fuan â chath rhwng deudy
Mor fuan â chwningen rhwng deudwll
Mor fud â delbren (= delwbren)
Mor fud â delw
Mor fusnesus â beili mewn sesiwn
Mor fwyn â gweniaith putain
Mor fywiog â'r brithyll yn y crych
Mor glir â haul ar fryn
Mor glired â'r seidr
Mor gloff â chelwydd ar ei faglau
Mor gopa stanc â'r ci
Mor groes â dau bric
Mor gyflym â hydd
Mor gyfoethog â chath mewn llaethdy
Mor gymwynasgar â'r hwch at ei bwyd
Mor gymwys â'r saeth
Mor gynnil â llyffan' ar ei grail
Mor hagar a fechod
Mor hapus â chywion mewn caws
Mor helbelus â giâr yn gori
Mor hurt â chi mewn ffair
Mor hyll â'r diawl
Mor iached â'r gloch
Mor laned â phin mewn papur
Mor laned â'r lamp
Mor lân â'r aur
Mor llawen â'r dydd yn hir
Mor llawen â'r gog
Mor llawn â chwch gwenyn
Mor llefog â llaethgi am ei fam
Mor lleuog â'r ddylluan
Mor llon â brithyll
Mor llonydd â chorff marw
Mor llonydd â llygoden o dan bawen cath
Mor llwm â llygoden
Mor llym â nodwydd
Mor naturiol â dŵr i bysg
Mor naturiol â dŵr mewn afon
Mor oer ag aelwyd cybydd
Mor oer â thraed hwyaid
Mor oer â thrwyn y ci
Mor oered â'r clempyn
Mor oered â'r iâ
Mor ofnus â chath wrth bysgota
Mor olau â'r houl
Mor onest â'r geirchen (gyrchen)
Mor rhagrithiol â charnfradwr
Mor sarrug â chorgi
Mor serchus â chi ar dewyn o dân
Mor serchus â'r gwr cwta
Mor sicr ag amen y clochydd
Mor sicr â'r nant i'r afon
Mor simsan ag wy ar drosol
Mor sionc â cheiliog ar bolyn
Mor sionced â'r bi
Mor sionced â'r big
Mor siriol â hirddydd haf
Mor sobor â phe uwch bedd ei fam-gu
Mor sosi â'r beili mewn sesiwn
Mor sownd â chloch y Bala
Mor stwrllyd â giâr am uncyw
Mor sured â'r dringol
Mor sych â nyth cath
Mor sychedig â rhod y felin
Mor syth â ffon
Mor uchel â'r houl = cuwch â'r houl
Mor ufudd â'r werthyd i'r sidell
Mor wag â phwrs putain
Mor wamal â dryw mewn perth
Mor wan â blewyn
Mor wanned ag ewyn dŵr
Mor wir â'r deial
Mor wir â'r Efengyl
Mor wired â'm geni
Mor wirioned â chyt llo Mister Hamer pan aeth ar ei ben i'r afon
Mor wisgi â'r wennol
Mor wlyb -â llygoden ddwr
Mor wyned â'r eira
Mor ysgafn â phlufyn
Mor ysgafn â'r wennol
Morwyn gwr mawr a hwch melinydd
Mwy na llond ei ddillad
Mwy o rym nag o synnwyr
Mwya eu trwst y llestri gweigion
Mwya poen, poen y methwr
Mwyaf y brys, mwyaf y rhwystr
Mynd ar ofyn rhywun
Mynd ar y goriwaered
Mynd â chwannen yn ei glust
Mynd â i ben yn y gwynt
Mynd â'r gilt oddiar y jinjerbred
Mynd drwy'r dwr a'r tân
Mynd fel llecheden
Mynd fel mellten
Mynd fel y gwynt
Mynd i ben y ty i ochel y tes
Mynd i ebargofiant
Mynd i ffair y moch
Mynd i fyny'r mynydd pren
Mynd i gladdu ei fam
Mynd i gwrdd a gofid
Mynd i Lundain fach
Mynd i mofyn angau at wr bonheddig
Mynd i sybergeisio
Mynd i'r cae sgwâr
Mynd i'r cân
Mynd i'r wal
Mynd i'w waed
Mynd trwodd yn droed sych
Mynn y gwir ei le
Mynn y gwirionedd ei le
Mynych addo, mynych angof
Mynych fenter, aml golled

(h) Curiad Oer 2005