Ymadroddion, Idiomau, Diarhebion Cymraeg

| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |

61 canlyniad

Ymadrodd
Fe aeth y llygoden goch drosto
Fe aeth yr hwch trwy'r siop fe ddaeth y gath o'r cwd
Fe â pob ci ar ôl cacen
Fe chwery bol â bwyd - ond ni chwery siaced lwyd
Fe ddaw'r ferch i fagu'r fam
Fe ddistrywiodd un waith can
Fe ddodws ei draed ynddi
Fe ddywed gelwydd fel ci yn trotian
Fe doriff cyn plygu
Fe dwyllodd y bola'r llygaid = ei lygaid yn fwy na'i fola
Fe ellir cael tôn fwyn ar delyn lapre
Fe ellir rhoi ergyd cwmws o hen fwa
Fe fynn y gân a'r geiniog
Fe fynn y geiniog a'r geiniogwerth
Fe grogws ei hunan o'r diwedd
Fe gwsg y galarus - ni chwsg y gofalus
Fe wyr ba ochr i'r bara mae'r 'menyn
Fe wyr fod gwahaniaeth rhwng cael ei arwain a chael ei lusgo
Fe wyr hen ddafad o ble daw storom
Fe wyr hen ddafad y fan y mae porfa
Fel barcud ar gyw
Fel bwrw pridd ar gorff
Fel cacynen mewn bys coch
Fel cath i gythraul
Fel ceiliog ar ei domen ei hun
Fel ci ar wair
Fel ci bach
Fel ci yn dal clêr
Fel clochydd yn wastad mewn eisiau
Fel crychydd yn hol llif
Fel diawl yn cneifio mochyn - mwy o swn nag o wlân
Fel eira yn yr haf
Fel giâr am ei chywion
Fel giâr ar y glaw
Fel hwrdd mewn gwledd
Fel hwyaden ar ddŵr
Fel iar ag uncyw
Fel iar dan badell
Fel iar glwc
Fel iar yn crafu
Fel iâr yn y glaw
Fel lladd nadroeth
Fel llwdwn diarddel
Fel llyffant wedi ei chwythu
Fel llygoden o dan draed y gath
Fel melin bupur
Fel swigen mochyn
Fel torth wen am geiniog
Fel twll tin ci ar yr haul
Fel y ceiliog ar ei domen ei hun
Fel y ci a'r hwch
Fel y ci ar ôl ei gynffon
Fel y dŵr gyda'r afon
Fel y dydd yn hwyr
Fel y gath yn cario ei chathod
Fel y golomen
Fel y gwnei dy botes rhaid i ti ei fwyta
Fel y syrth huddygl i botes
Felna mae a felna fydd hi
Fu mwy o golled na hynna yn Llundain cyn brecwast
Fy ngorau glas

(h) Curiad Oer 2005