Ymadroddion, Idiomau, Diarhebion Cymraeg

| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |

147 canlyniad

Ymadrodd
Da bod ei gyrn mor fyrred
Da yw dant i atal tafod
Da yw Duw a hir yw byth
Dafad ddu
Dagrau sych gynta dal at y gwir, petái'r wybr yn cwympo
Dal cannwyll i gyfarwydd
Dal ei law yng nghysgod ei lygad
Dal golau i gath lygota
Dal mochyn gerfydd ei gwt
Dal y ddysgl yn wastad
Dal y dydd gerfydd ei gwt
Dal y goes i'w blingo
Dal y gwynt a saethu'r lleuad
Dal y gwynt mewn sachau
Dal ych gerfydd ei gorn
Dall pob anghelfydd
Dall pob anghyfarwydd
Dall yw cariad i bob anaf
Dan boen fféloni
Dan fy llais
Dau ar rwn ac ar ôl
Daw dial, daw. Wedws dial delse
Daw, fe ddaw yn haf ar y ci coch; a thywydd teg i galchwr
Dawnsio yn nhraed ei sanau
Dechrau da yw hanner y gwaith
Defnyddio synnwyr y fawd
Deng mlynedd yw can mlwydd oed ci
Deuparth gwaith yw ei ddechrau
Dial y felin, dial ei fola
Dianaf hagr i gariad
Diboen i ddyn dybio'n dda
Diddrwg didda
Diddrwg pob drwg heb gerydd
Dieithr pob llwybr nes ei gerdded
Digon o dafod i ddeubar o ddannedd
Digon sy digon
Digon yw digon - a hwnnw am ddim
Digrif gan bob aderyn ei lais ei hun
Dim arian dim tybaco
Dim Cymraeg rhyngddynt
Dim llawn llathen
Dim mor sicr ag angau
Dim mwy o dal arno nag sydd ar ddyn bach
Dim mwy o ddal arno nag sydd ar y gwynt pan y bo hi yn daranau
Dim ond dwy ffordd i wneud gorchwyl
Dim pwynt codi pais wedi pisho
Dim rhwng ei dwy glust
Diod adda
Distaw'r gloch fawr tan y cana hi
Distawa'i dafod, llyma'i dan
Diwedd hen - yn cadw mochyn
Diwedd y gân yw'r geiniog
Diwrnod i'r brenin
Dod dy goll i wr o bell
Dod tua thre ac un llaw'n wag, a'r llall heb ddim
Dod yn ei hôl fel ceiniog ddrwg
Dodi draen yn ei nyth ei hun
Dodi ei dafod rhwng y maen a'r min
Dodi ei fys rhwng y tewyn a'r tân
Dodi ei het ar yr hoel
Dodi'r droed orau ymlaen
Does byth flino ar gèl benthyg
Does colled i neb nad oes ennill i rywun
Does dim am ddim, na dim llawer am ddimai
Does dim clem 'da fi
Does dim drwg dwyn oddi ar leidr
Does dim o ddim, a dim heb dreio
Does dim ots
Does dim toll ar gleber
Does dim toll ar gleber menyw
Does doll ar dafod menyw
Does gan y ci ond ei groen
Does gan y ci ond ei gwt
Does gofid neb fel 'ngofid i
Does neb yn dlawd nes a'n dlawd o ddyn
Does neb yn rhy hen i ddysgu
Does ond y gwir a ddal dŵr
Does unman fel cartre'
Doeth ffôl tra tawo
Doeth pob tawgar
Dos i ganu
Drefn yr iâr wen / Tonni'n y ty, a dodwy ar y pren
Drewi fel y gingroen
Dros ben llestri
Dros ei ben a'i glustiau mewn gofid
Dros ei phen a'i chlustiau
Drwg cynt gwaeth wedyn
Drwg y ceidw'r diawl ei was
Drysu'r priciau
Duw a'm cadw rhag y drwg
Duw gadwo'r da
Duw yn dda i chi
Duw yn fy nhghylch
Dw i cyn stowtied ar fy nghwd ag yntau ar ei sach
Dweud pader i berson
Dweud y drefn
Dweud yn deg a delio'n dost
Dwfr dwfn gerdd yn dawel
Dwl bwrw, dwl marw
Dwl geni, dwl drengu
Dwr glan gloyw, diod fain a chwrw
Dwy frân ddu lwc dda'i mi
Dwy law chwith
Dwylo blewog
Dydd Mawrth Ynyd - ponca pob munud
Dydd Nadolig ddaeth i'r dre, a'i ddeuddeg gwas gydag e
Dydd Sul y pys
Dydi o werth mo'r gecsen
Dyfal donc a dyrr y garreg
Dyled ar bawb, dyled ar neb; gwaith ar bawb, gwaith ar neb
Dyn i'r pen
Dyna blufyn yn ei gap
Dyna blufyn yn ei gwpan
Dyna blufyn yn ei het ef
Dyna damaid i ti - tag wrth ei lyncu
Dyna ddyn a'i galon yn ei ddwrn
Dyna ddyn a'i galon yn ei law
Dyna fel mae pob bwyd yn cael ei fwyta
Dyna fo i chi fel y ces innau fo
Dyna gelwydd glan golau
Dyna gneuen i ti - tor hi, os medra dyna wir fel yr houl
Dyrned o lwch mis Mawrth yn werth peced o aur y Brenin
Dysgu cath i lygota
Dysgu cath i yfed llaeth
Dysgu crychydd i bysgota
Dysgu crychydd i lyncu llyswen
Dysgu c?n i fwyta caws
Dysgu ei famgu i odro'r hwyaid
Dysgu gwiwer i gneua
Dysgu hen geiliog i ganu
Dysgu hwyaid i nofio
Dysgu llwynog i ladd gwyddau
Dysgu mam-dda i fwyta uwd
Dysgu moch i yfed maidd
Dysgu'r disgloff i gerdded wrth faglau
Dysgu'r dryw fach i nythu
Dysgu'r gath i grafu a'i llygaid yngháu
Dysgu'r pader i'r gath
Dysgu'r wennol i nythu
Dyw afal o berllan arall byth yn sur
Dyw amser ddim yn aros
Dyw cig llwdn lladrad byth yn drewi
Dyw e ddim gwerth halen mewn bwdran
Dyw e' ddim wedi bod pen draw'r ffwrn
Dyw pob ci sy'n cyfarth ddim yn cnoi
Dywed yn dda am dy gyfaill am dy elyn na ddywed ddim
Dywedyd wrth y wal nes bo'r pared yn clywed = teimlo

(h) Curiad Oer 2005