| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |
204 canlyniad
Ymadrodd |
---|
Cadarn pob cyfiawn |
Cadw ci a chyfarth ei hun |
Cadw dy afraid at dy rhaid |
Cadw dy fodiau i ti dy hun |
Cadw heddiw fel bo gennyt yfory |
Cadw reiat |
Cadw ti gei |
Cadw'r ael |
Cadw'r ddysgl yn wastad |
Cadw'r mis |
Cadw'r pen clap i fyny |
Cadw'th dafod rhwng y ddannedd |
Cadwa fe dan dy gap |
Cael bachiad |
Cael caws o fola ci |
Cael ei gadw dan y gwpan |
Cael fy nhraed yn rhydd |
Cael neu golli, mentra |
Cael y cwd |
Cael y gath â'r ddwy gynffon |
Cael-a-chael |
Caiff dyn dysg o'i grud i'w fedd |
Caiff pob peth ei gyhydu ond edafedd gwrthban |
Cais ddedwydd yn ei gartref |
Call pob ffôl tra tawo |
Calon dyn yn ei bwrs |
Calon dyn yn ei logell caseg wen a phioden |
Camgymeryd y mochyn |
Can croeso gwraig y ty |
Can esgor ifainc |
Can haeled â llyffan ar y pridd |
Canmoled pawb y bont a'i cariodd trosodd |
Cannwyll y llygad |
Cannwyll y plwy |
Cant y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd |
Canu cyn borefwyd, crio cyn swper |
Canu ei glul |
Canu'r dôn leddf |
Car cywir, yn yr ing fe'i gwelir |
Car dy wlad a thrig ynddi |
Cario dau wyneb |
Cario mawn i ben mynydd |
Cario'r byd ar ei gefn |
Cario'r cwpan yn wastad |
Cario'r gath |
Cario'r morthwyl â'r pinsers |
Cario'r plât |
Carn myniawyd |
Carreg ateb |
Carreg filltir |
Carthu'r stabl cyn rhoi'r ceffyl newydd i mewn |
Cartref yw cartref, er tloted y bo |
Caru yn nhraed ei 'sanau |
Caru'r encilion |
Caru'r slater |
Caseg wen oedd hi |
Cath rhwng deudy, a chwningen rhwng deudwll |
Cau ceg rhywun |
Cau drws y stabl wedi i'r ceffyl ddianc |
Cau pen y mwdwl |
Cau'r drws ar ddannedd dyn |
Caws o fola ci |
Cân di bennill fwyn i'th nain / Fe gân dy nain i tithe |
Câr dy gymydog ond cadw dy glawdd |
Ceffyl benthyg |
Ceffyl blaen |
Ceffyl da yw ewyllys |
Ceiniog gam |
Ceir llawer cam gwag drwy sefyll yn llonydd |
Cel da yw cel benthyg |
Cenedl heb iaith, cenedl heb galon |
Cenfigen a fynn ei thâl |
Cenfigen a fynn ei wobr |
Cenfigen a fynn le i ddial |
Cenfigen a ladd ei pherchennog |
Ci yn cyfarth ar y lleuad |
Ci yn udo noson ole, newydd drwg ddaw yn y bore |
Cic i'r post i'r fuwch gael clywed |
Cipio fel cath i gythraul |
Clap dan ei aden |
Clecwn sy'n holi, a ffyliaid sy'n gweud |
Cloch fawr |
Cloch wrth bob dant |
Clustfeinio |
Clwt yn well na thwll |
Cnùl newyn, llaethdy gwag |
Cneifio a'r gweillaif yn y llaw chwith |
Cneuen goeg sy galeta |
Cnoi ei dafod |
Cnoi'r bit |
Cnu'r ddafad farw |
Coch cas ffidil |
Coch i fyny teg yfory |
Coch i lawr glaw mawr |
Cochi at ei glystiau |
Cocio ei fwnci |
Codi angor |
Codi bwganod |
Codi bys at (rywun) |
Codi bys bach |
Codi crach a thrafod crawn |
Codi cyn cŵn Caer |
Codi ei hwyl i'r gwynt |
Codi ei wrychyn |
Codi melin i falu pecied (pecaid) |
Codi ofn ar (rywun) |
Codi pais ar ôl piso |
Codi pridd ar ei gyrn |
Codi stem |
Codi'r gastal arno |
Cof pob diwethaf |
Coffa da amdano, mae o ar y gwir a ni ar y tir |
Coflaid fach, a'i gwasgu'n dynn |
Colli llaw at |
Colli nabod ar |
Colli'r pen gorau i'r cost |
Coroni bardd |
Cos di fi, mi gosa innau dithau |
Cosa di fi mi gosa innau di |
Cosyn glân o gawsellt budr |
Cred air o bob deg a glywi, a thi a gei rywfaint bach o wir |
Crio'r fedel cyn y cynhaeaf |
Crio'r fedel wyliau'r Nadolig |
Crocbris |
Croen ei dîn ar ei dalcen |
Crogi neb wyr |
Crogi telynau ar yr helyg |
Crogi'r ffidil wrth y drws |
Cura'r haearn tra fo'n boeth |
Curo gras a phastwn |
Curo'r haearn tra fyddo'n boeth |
Cuwch cwd a ffetan |
Cwsg galar ond ni chwsg gofid |
Cwsg potes maip os wedi ei ennill yn onest |
Cwsg yw bywyd heb lyfrau |
Cwympo i'r pot a'r saem |
Cyd bo hirddydd, daw ucher |
Cyfaill blaidd, bugail diog |
Cyfaill calon |
Cyfoethog pob dedwydd |
Cyfraith y brenin dall - y cynta' i ddarfod i helpu'r llall |
Cyfri'r cywion yn y cibau |
Cyfri'r sêr |
Cyfrwyo'r ceffyl chwith |
Cymaint ei gariad â'r iâr at yr halen |
Cymeryd cennad ci |
Cymydog agos sy'n well na brawd ymhéll |
Cyn codi cŵn Gaer |
Cyn cwyd cŵn Caer i... |
Cyn daered â'r twrch |
Cyn ddued â'r pitsh |
Cyn ddyfned â llyn Siôn 'Sanau |
Cyn ddyfned â phit glo |
Cyn ddyled â'r post |
Cyn dloted a llygoden eglwys |
Cyn dloted â llygoden eglwys |
Cyn dywylled â'r ffwrn |
Cyn falched a phaun |
Cyn falched â Líwsiffer |
Cyn farwed a hoel |
Cyn farwed â hoel |
Cyn feined â'r gawnen |
Cyn felused â'r mêl |
Cyn frithed â hadau rhedyn |
Cyn goched â'r gwaed |
Cyn gymaint â mynydd |
Cyn gynted â'r gwynt |
Cyn hacred a phechod |
Cyn hyned â'r ffordd fawr |
Cyn iached â'r glain |
Cyn llawn ben helynt |
Cyn llwyted â'r llymru |
Cyn oered â'r iâ |
Cyn sicred â bod craig yn Llanymynech |
Cyn sionced â'r biogen |
Cyn stiffied â chath wedi rhewi |
Cyn syched â'r carth |
Cyn wanned â'r gath |
Cyn werth mo'r ffado |
Cyn wydned â lledr clytio |
Cyn wyllted â chath ddu mewn pot |
Cyn wynned â'r rwmpwl |
Cyn ysgafned a'r plufyn |
Cynffon wen |
Cynffonna |
Cynnau cannwyll i chwynu |
Cynnau tân ar hen aelwyd |
Cynnau'r tân i losgi'r ty am ei ben |
Cynt cwymp dâr na miaren |
Cynt na chynted allo |
Cynt twymiff y gwaed na'r dŵr |
Cynta gwyd a gyll ei le - dyna arfer plant y dre |
Cyntaf ei og, cyntaf ei gryman |
Cyrchu dŵr dros afon |
Cysgu ci bwtsiwr |
Cysgu ci cigydd |
Cysgu fel pathew |
Cysgu hun ci cigydd |
Cystal ag aur |
Cythraul canu |
Cyw cynnar |
Cyw gwaelod y nyth |
Cyw gwyllt |
Cyweiro gwair pan y bydd yr haul yn tywynnu |