Ymadroddion, Idiomau, Diarhebion Cymraeg

| A | B | C | CH | D | DD | E | F | FF | G | I | L | LL | M | N | O | P | R | RH | S | T | U | W | Y |

109 canlyniad

Ymadrodd
A boero i ddannedd y gwynt sy'n poeri i'w wyneb ei hun
A chroen ei ddannedd
A ddarllenno, ystyried
A ddwg wy a ddwg fwy
A ddyco rodd a gaiff ddrws agored
A enillir ar gefn y cythraul aiff dan ei fol
A ewyllysio ddrwg i'w gymydog iddo ei hun y daw
A fo ben, bid bont
A fu Mari a'i llaw arnat?
A fynno iechyd, bid lawen
A fyno glod, bid farw
A geir yn rhad, a gerdd yn rhwydd
A gollir heddiw ni cheir yfory
A wnel dwyll, ef a dwyllir
A ystyrio, cofied
A'i ben yn ei blu
A'i wynt yn ei ddwrn
A'm gwynt yn fy nwrn
A'm pen yn fy mhlu
Achub chwannen a cholli croen buwch
Achub wy poeth o dân
Achub y blaen
Adar o'r unlliw hedant i'r unlle
Adeiladu llong i'w gario i foddi
Aderyn brith
Aderyn mewn llaw sydd werth dau yn y llwyn
Aderyn y nos
Adfyd a ddwg wybodaeth, a gwybodaeth ddoethineb
Ael bore (ddydd)
Ael nos
Aer Bodheble
Aer Osceiffle
Aeth ei eiddo rhwng seiri a phorthmyn
Afrad pob afraid
Afrwydd pob gorchwyl ar y cyntaf
Ag arian y prynir popeth - ond gair da
Ag un troed dan bob cesail
Agos at ei galon
Agos i'm lle
Agosaf i'r asgwrn melusaf y cig
Agosaf y diawl pan siaredir amdano
Ail godiad da iddo
Ail i fygu, dagu
All neb fyw ar garu a chusana
All neb gario'i dylwyth ar ei gefn
All ungwr ond a allo
Allan o ddyled allan o berygl
Allan o reswm, allan o bob rheswm
Allwedd arian a egyr pob clo
Allwedd pob cist yw cwrw
Am gwymp hen y chwardd ieuanc
Am y tywydd, gorau tewi
Amcan llygad a gwaith llaw
Amcan llygad a gwaith llaw, gobeithio y daw o yn union
Amcan llygad a gwaith pen bys
Amcan Shors am bwys o wlân / ac amcan Shân wrth gribo
Aml bai lle ni charer
Aml gnoc a dyr y garreg
Amled yn y farchnad, croen yr oen â chroen y ddafad
Amser a ddengys
Amser yw'r esboniwr gorau
Amynedd yw mam pob doethineb
Angel pen ffordd a chythraul min y pentan
Angel penffordd, diafol y pentan
Anhodd tynnu cnacau o hen geffyl
Annoeth pobun nes gwypo
Annoeth, llithrig ei dafod
Anodd dal hen geffyl â rhedyn
Anodd dal y ganwyll yn wastad
Anodd dwyn dyn oddiar ei deulu
Anodd plygu hen bren
Anodd rhoddi hen ben ar ysgwyddau ifanc
Anodd tynnu cast o hen geffyl
Ar ôl yfed, syched sydd
Ar ôl yr oes
Ar ben ei dennyn
Ar ben y ffordd
Ar bigau'r drain
Ar bob cyfrif
Ar chwâl
Ar dir y byw
Ar doriad gwawr
Ar draws ac ar hyd
Ar draws fy nannedd
Ar drot byth a hefyd
Ar drothwy (rhywbeth)
Ar ei ben ei hun
Ar flaen fy nhafod
Ar flaenau ei fysedd
Ar fy union
Ar gael a chadw
Ar gefn ei geffyl
Ar gefn ei geffyl gwyn
Ar gefn Pompei
Ar gyfeiliorn
Ar lwgu
Ar rod a charhant
Ar wastad fy nghefn
Ara' bach ma' dala iar
Aredig y tywod
Arfer yw hanner y gwaith
Arian y Saeson
Asgwrn i gnoi
Asgwrn i'w grafu
Asgwrn y gynnen
At y blewyn
Athro da yw amser
Awr fawr Galan dwy wyl Elian. Tair awr wyl Fair oni bydd pedair
Awr wan

(h) Curiad Oer 2005