Mae'r erthygl isod yn trafod defnydd yr Iaith Gymraeg drwy ddull electronig ar rwydweithiau cyfrifiadurol o'r 1980au i'r presennol a sut y datblygodd hyn yn sgil cynnydd y defnyddwyr a datblygiad y dechnoleg ei hun.
Mi fyddem yn falch o dderbyn unrhyw gywiriadau, ychwanegiadau neu unrhyw wybodaeth arall y gellir ei gynnwys ar y dudalen yma - .
Mae pobl wedi cyfathrebu ar wahanol rwydweithiau cyfrifiadurol ers yr 80au. Roedd y rhan fwyaf o'r rhwydweithiau hyn yn rhai caëedig o fewn cwmniau mawr, academia, gwasanaethau masnachol cynnar fel AOL a Compuserve neu drwy gysylltiadau BBS (Bulletin Boards) yn cael eu rhedeg fel hobi gan unigolion brwdfrydig.
Yn y 90au cynnar roedd y Rhyngrwyd fel y mae hi'n bodoli heddiw wedi ymsefydlu yn America ac yn dechrau cyfuno gyda rhwydweithiau cyfrifiadurol eraill yn y byd. Fe roedd prifysgolion Prydain wedi ei cysylltu i rwydwaith JANET - roedd hwn yn rhedeg ar dechnoleg gwahanol i'r Rhyngrwyd er fod ffyrdd o bontio er mwyn trosglwyddo gwybodaeth a negeseuon ebost rhwng y ddau system.
Drwy 1991 a 1992 fe ddaeth rhwydwaith JANET yn rhan o'r rhyngrwyd byd-eang gan gwneud cyfathrebu yn haws drwy ddefnyddio technolegau safonol. Roedd rhwydweithiau academaidd a phoblogaidd eraill fel BITNET yn America hefyd yn addasu'n gyflym i dechnoleg y Rhyngrwyd.
Ar yr un pryd, roedd AOL, Compuserve a rhai BBSau yn dechrau cynnig porth i dechnoleg y rhyngrwyd a felly yn helpu cysylltu mwy a mwy o bobl i'r rhwydwaith gynhwysfawr newydd.
Roedd y rhwydweithiau cynnar i gyd yn cynnig ffyrdd o drosglwyddo gwybodaeth a chynnal trafodaethau, drwy restrau e-bost (LISTSERV yn un system boblogaidd) a thrwy grwpiau newyddion (Usenet). Mae'r ddau ddull yma wedi goroesi hyd heddiw er mor boblogaidd We, gan fod y ddau yn cynnig nodweddion arbennig sy'n eu gwneud yn mwy defnyddiol ar gyfer rhai tasgau na technolegau newydd fel y We.
Fe roedd technoleg fel Gopher yn cynnig ffordd syml o bori a chwilio drwy gwybodaeth destunnol ond fe gafodd ei ddisodli yn gyflym iawn ar ôl dyfodiad y We.
Fe ddyfeiswyd technolegau'r We Fyd-Eang yn 1989/1990 ond dim ond erbyn 1991/92 oedd hi'n bosib gwneud defnydd difrifol o'r dechnoleg i ledaenu gwybodaeth ac yn 1994 roedd hi'n bosib gweld dylanwad pell-gyrhaeddol y cyfrwng.
Dyna'r cefndir ynglyn a sut ddatblygodd y dechnoleg ond beth yw lle'r Gymraeg yn hyn i gyd? Mae'n siwr fod gan rhai pobl llawer mwy o wybodaeth am hyn na fi ond dyma ddechrau llenwi'r bwlch yn yr hanes a falle ysgogi eraill i gyfrannu eu atgofion nhw. Mi fydd yr hanes yma yn cael ei rhestru yn ôl dyddiad:
Mae archifau welsh-l yn mynd nol i'r cyfnod yma, ond pryd sefydlwyd yn union.. ar BITNET. crewyd ar gyfer cyfnewid newyddion a gwybdoaeth yn y Gymraeg, Llydaweg a Chernyweg (drwy gyfrwng yr ieithoedd hynny yn unig i fod ond roedd tipyn o saesneg arno)
Gwefannau: Curiad, Gwe Awe, Tafod Tafwys, Digwyddiadur Llundain
I'w lenwi!!!
crëwyd: 15 Ebrill 2005 15:56:00 UTC
diweddarwyd: 06 Mai 2006 20:56:00 UTC