Cyngor ar sut i deipio'r llafariaid acennog ar amryw gyfrifiaduron.
Trafodwch unrhyw gywiriadau/gwelliannau i'r ddogfen hon ar faes-e
Nid yw'r systemau yma yn cefnogi Unicode yn llawn, felly nid yw'n bosib teipio acenion mewn ffordd gyson ar draws pob rhaglen.
Gosodwch raglen To Bach er mwyn hwyluso teipio acennau.
Ar Windows XP SP2 dewiswch y bysellfwrdd Cymraeg a wedyn mae'n bosib defnyddio Alt-Gr + ^ wedyn y llafariad. (ac Alt-Gr + " neu ')
Ar Mac OS X Tiger neu uwch, gosodwch y bysellfwrdd Cymraeg a mae'n bosib rhoi toeau bach gyda Alt+llafariad.
I wneud hyn ewch i Apple menu > System Preferences > International
Yn y tab "Language", cliciwch "Edit List", ffeindiwch "Cymraeg" a rhowch dic iddo a chlicio OK. Bydd Cymraeg yn y rhestr nawr -- llusgwch hi i frig y rhestr.
Wedyn, yn y tab "Formats", dylai'r "Region" nawr ddweud "United Kingdom (Welsh)". Os na, bydd e o dan Welsh > United Kingdom. Bydd hyn yn rhoi dyddiadau ac amseroedd yn Gymraeg i chi.
I ddefnyddio'r bysellfwrdd Cymraeg, ewch i'r tab "Input Menu" a rhoi tic i "Welsh". Dewiswch hefyd "Use one input source for all documents", neu bydd yn newid nôl i Saesneg drwy'r amser.
Wedyn bydd modd newid y fflag ar bwys y cloc i'r Ddraig Goch i ddefnyddio'r bysellfwrdd Cymraeg. Mae hynny'n galluogi ALT+llafariad ar gyfer to bach, neu ALT+7,8 neu ` wedyn llafariad ar gyfer acenion eraill.
Yn y penbwrdd (X) y ffordd gyffredinol o wneud hyn yw - AltGr + acen + llafariad
e.e. AltGr + ^ + o. Mae hyn yn golygu tri cam ar wahan - taro AltGr, yna taro shift-6, yna o (neu a, e, i, u, w, y). Er mwyn dangos yr ŵ a ŷ yn gywir rhaid fod y meddalwedd yn cefnogi hyn (e.e. efallai na fydd yn gweithio mewn terfynell). Yn yr un modd, gellir defnyddio " (shift-2) i gael didolnod - ä, ' i gael acen ddyrchafedig - á neu ` i gael acen ddisgynnedig à.